Ezekiel 40:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y bumed flwyddyn ar hugain o'n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac a'm dug yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[1] Roedd hi'n ddechrau'r flwyddyn, ddau ddeg pum mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r mis cyntaf. (Sef un deg pedair blynedd ar ôl i ddinas Jerwsalem gael ei dinistrio). Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma fe'n mynd â fi i wlad Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddechrau'r bumed flwyddyn ar hugain o'n caethglud, ar y degfed o'r mis yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi cwymp y ddinas, ar yr union ddiwrnod hwnnw, daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf a mynd mi yno.