Ezekiel 40:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ffenestri cyfyng oedd i'r ystafelloedd, ac i'w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i'r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yna ffenestri cul yn waliau cilfachau'r gwarchodwyr ac o gwmpas yr ystafell gyntedd. Ac roedd y colofnau wedi eu haddurno gyda coed palmwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ffenestri bychain oddi amgylch yn yr ystafelloedd ac yn y muriau y tu mewn i'r porth, ac felly hefyd yn y cyntedd; yr oedd y ffenestri oddi amgylch yn wynebu i mewn, ac yr oedd y pileri wedi eu haddurno phalmwydd.