Ezekiel 40:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i ystafelloedd ef oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a'i fwâu meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y cilfachau (tair bob ochr), y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un fath â'r giât gyntaf: dau ddeg chwech metr o hyd ac un deg tri metr o led.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ei ystafelloedd, tair o'r ddeutu, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau rhai'r porth cyntaf; yr oedd yn hanner can cufydd o hyd ac yn bum cufydd ar hugain o led.