Ezekiel 40:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'm dug yno: ac wele ŵr a'i welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn llin, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n mynd â fi yno; ac yno'n sefyll o flaen giât y ddinas roedd dyn oedd yn ddisglair fel pres. Roedd ganddo dâp mesur a ffon fesur yn ei law.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd fi yno, a gwelais ddyn a'i ymddangosiad yn debyg i bres; yr oedd yn sefyll wrth y porth, llinyn o liain a ffon fesur yn ei law.