Ezekiel 40:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i fwâu meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wynebai ei gyntedd y cyntedd nesaf allan; yr oedd ei bileri wedi eu haddurno phalmwydd, ac yr oedd wyth o risiau'n arwain ato.