Ezekiel 40:36 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei ystafelloedd, ei byst, a'i fwâu meini, a'r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled oedd bum cufydd ar hugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
felly hefyd ei ystafelloedd, ei bileri a'i gyntedd, ac yr oedd ffenestri o'i amgylch. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.