Ezekiel 40:39 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o'r tu yma, a dau fwrdd o'r tu acw, i ladd y poethoffrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd, arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn ystafell gyntedd y fynedfa roedd dau fwrdd bob ochr, lle roedd yr anifeiliaid ar gyfer y gwahanol offrymau yn cael eu lladd — yr offrwm i'w losgi, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yng nghyntedd y porth yr oedd hefyd ddau fwrdd o boptu, ac arnynt y lleddid y poethoffrwm, yr offrwm dros bechod a'r offrwm dros gamwedd.