Ezekiel 40:44 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o'r tu allan i'r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a'u hwynebau oedd tua'r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, â'i wyneb tua'r gogledd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y tu allan i'r giât yn yr iard fewnol roedd dwy ystafell — un wrth ochr y giât ogleddol yn wynebu'r de, a'r llall wrth ochr y giât ddeheuol yn wynebu'r gogledd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y tu allan i'r porth nesaf i mewn, a'r tu mewn i'r cyntedd nesaf i mewn, yr oedd dwy ystafell, un ger porth y gogledd ac yn wynebu'r de, ac un ger porth y de ac yn wynebu'r gogledd.