Ezekiel 40:49 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a'm dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o'r naill du, ac un o'r tu arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hyd y cyntedd yn ddeg metr a hanner a'i led yn bum metr a thri chwarter, gyda deg gris yn mynd i fyny ato a colofnau bob ochr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y cyntedd yn ugain cufydd o led, ac yn ddeuddeg cufydd o'r blaen i'r cefn; arweiniai grisiau i fyny ato, ac yr oedd colofnau bob ochr i'r pileri.