Ezekiel 40:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele fur o'r tu allan i'r tŷ o amgylch ogylch: a chorsen fesur yn llaw y gŵr, yn chwe chufydd o hyd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen, a'r uchder yn un gorsen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd wal o gwmpas adeiladau'r deml. Roedd ffon fesur tua tri metr o hyd yn llaw y dyn. Roedd y wal yn dri metr o drwch a tri metr o uchder.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais fur yn amgylchu'n llwyr safle'r deml. Yr oedd y ffon fesur yn llaw'r dyn yn chwe chufydd hir, sef cufydd a dyrnfedd; a phan fesurodd y mur yr oedd ei drwch yn hyd y ffon, a'i uchder yn hyd y ffon.