Ezekiel 40:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth i'r porth oedd â'i wyneb tua'r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a'r rhiniog arall yn un gorsen o led.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Dringodd i fyny'r grisiau a mesur y trothwy allanol. Roedd yn dri metr o ddyfnder.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth at y porth oedd yn wynebu'r dwyrain, ac i fyny ei risiau, a phan fesurodd riniog y porth yr oedd yn hyd y ffon.