Ezekiel 41:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol, ar y cwr tua'r gorllewin, oedd ddeg cufydd a thrigain o led; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch, a'i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân ar ochr orllewinol y deml yn dri deg saith metr o led. Roedd wal allanol yr adeilad yn ddau fetr a hanner o drwch ac yn bedwar deg saith metr o hyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr adeilad a wynebai gwrt y deml ar ochr y gorllewin yn ddeg cufydd a thrigain o led, a mur yr adeilad yn bum cufydd o drwch oddi amgylch, a hyd yr adeilad yn ddeg cufydd a phedwar ugain.