Ezekiel 41:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fesurodd y tŷ, yn gan cufydd o hyd; a'r llannerch neilltuol, a'r adeiladaeth, a'i pharwydydd, yn gan cufydd o hyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna mesurodd y deml ei hun. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd, ac roedd yr iard sydd ar wahân o'i chwmpas yn bum deg dau metr a hanner arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna mesurodd y deml; yr oedd yn gan cufydd o hyd, ac yr oedd y cwrt a'r adeilad gyda'i furiau hefyd yn gan cufydd o hyd.