Ezekiel 41:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y fynedfa ei hun yn bum metr a chwarter, ac roedd y waliau bob ochr yn ddau fetr a hanner o drwch. Roedd y cysegr allanol yn ddau ddeg un metr o hyd a deg metr a hanner o led.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y mynediad yn ddeg cufydd o led, a muriau'r mynediad bob ochr yn bum cufydd o drwch. Mesurodd hefyd hyd y deml; yr oedd yn ddeugain cufydd, a'i lled yn ugain cufydd.