Ezekiel 41:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaethid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o'r tu allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ceriwbiaid a choed palmwydd wedi eu cerfio ar ddrysau'r cysegr allanol, yr un fath â'r rhai ar y waliau. Ac roedd canopi pren uwch ben y cyntedd y tu allan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddrysau'r deml yr oedd cerfiadau o gerwbiaid ac o balmwydd, fel ar y muriau, ac yr oedd cornis pren ar flaen y cyntedd o'r tu allan.