Ezekiel 41:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y porth, ac ar ystafelloedd y tŷ, a'r trawstiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ffenestri culion gyda coed palmwydd bob ochr iddyn nhw yn addurno waliau'r cyntedd. Roedd canopïau uwch ben ystafelloedd ochr y deml hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ym muriau'r cyntedd yr oedd ffenestri bychain, a phalmwydd wedi eu cerfio bob ochr. Yr oedd cornis hefyd ar bob un o ystafelloedd ochr y deml.