Ezekiel 41:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a'r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth y dyn i mewn i'r cysegr mewnol. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa yn fetr o led, y fynedfa ei hun yn dri metr, a'r waliau bob ochr i'r fynedfa yn dri metr a hanner.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth i'r cysegr nesaf i mewn a mesur pileri'r mynediad, ac yr oeddent yn ddau gufydd o drwch; yr oedd y mynediad yn chwe chufydd o led, a muriau'r mynediad yn saith cufydd o drwch.