Ezekiel 41:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chufydd; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i'r tŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna mesurodd wal y deml, ac roedd hi'n dri metr o drwch. Roedd pob un o'r ystafelloedd ochr o gwmpas y deml yn ddau fetr o led.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna mesurodd fur y deml; yr oedd yn chwe chufydd o drwch, ac yr oedd pob ystafell o amgylch y deml yn bedwar cufydd o led.