Ezekiel 41:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddeg ar hugain o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i'r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglŷn; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ystafelloedd ochr ar dri llawr, tri deg ar bob llawr. Roedd y trawstiau o dan yr ystafelloedd yma yn gorwedd ar siliau o gwmpas y wal. Doedden nhw ddim wedi eu gosod yn wal y deml ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr ystafelloedd ar dri uchder, y naill ar ben y llall, a deg ar hugain ym mhob uchder. Yr oedd bwtresi o amgylch mur y deml i gynnal yr ystafelloedd, fel nad oeddent yn cael eu cynnal gan fur y deml.