Ezekiel 41:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i'r celloedd: oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ: am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd; ac felly y dringid o'r isaf i'r uchaf trwy y ganol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ystafelloedd ar y llawr canol yn lletach na'r rhai ar y llawr isaf, a'r rhai ar llawr uchaf yn lletach eto. Roedd grisiau yn arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf drwy'r llawr canol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr ystafelloedd o amgylch y deml yn lletach wrth godi o'r naill uchder i'r llall. Yr oedd yr adeiladwaith o amgylch y deml yn codi mewn esgynfeydd, fel bod yr ystafelloedd yn lletach wrth esgyn; ac yr oedd grisiau'n arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf trwy'r llawr canol.