Ezekiel 42:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesânt at yr ARGLWYDD, y pethau sanctaidd cysegredig: yno y gosodant y sanctaidd bethau cysegredig, a'r bwyd‐offrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd; canys y lle sydd sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dyn yn dweud wrtho i: “Mae'r ystafelloedd yma i'r gogledd a'r de, ac sy'n wynebu'r iard sydd ar wahân, yn ystafelloedd sydd wedi eu cysegru. Dyna lle mae'r offeiriaid sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sanctaidd. Dyna lle byddan nhw'n gosod yr offrymau — yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r ystafelloedd yma wedi eu cysegru i'r pwrpas hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd wrthyf, "Y mae ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y de, sy'n wynebu'r cwrt, yn ystafelloedd cysegredig, lle bydd yr offeiriaid sy'n dynesu at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sancteiddiaf; yno y byddant yn rhoi'r offrymau sancteiddiaf, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r aberth dros gamwedd, oherwydd lle cysegredig ydyw.