Ezekiel 42:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a'r digysegr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mesurodd y wal ar y pedair ochr. Roedd yn ddau cant chwe deg dau metr a hanner bob ffordd. Roedd y waliau yma'n gwahanu'r cysegredig oddi wrth y cyffredin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'i mesurodd ar y pedair ochr. Yr oedd mur oddi amgylch, yn bum can cufydd o hyd ac yn bum can cufydd o led, i wahanu rhwng y sanctaidd a'r cyffredin.