Ezekiel 42:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r llawr i fyny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am eu bod ar dair lefel, a heb golofnau i'w cynnal fel yr ystafelloedd yn yr iard, roedd yr ystafelloedd uwch wedi eu gosod yn bellach yn ôl na'r rhai oddi tanyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd colofnau i ystafelloedd y trydydd llawr, fel yn y cynteddau, ac felly yr oedd eu lloriau'n llai na rhai'r lloriau isaf a chanol.