Ezekiel 43:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth dw i eisiau i ti ei wneud, ddyn, ydy disgrifio'r deml rwyt ti wedi ei gweld i bobl Israel, er mwyn iddyn nhw fod â chywilydd o'u pechod. Gwna iddyn nhw astudio'r cynllun yn fanwl
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fab dyn, disgrifia'r deml i bobl Israel, er mwyn iddynt gywilyddio am eu camweddau. Bydded iddynt ystyried y cynllun,