Ezekiel 43:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a'i osodiad, a'i fynediadau allan, a'i ddyfodiadau i mewn, a'i holl ddull, a'i holl ddeddfau, a'i holl ddull, a'i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a'i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
wedyn bydd ganddyn nhw gywilydd go iawn o beth wnaethon nhw. Dangos gynllun y deml i gyd iddyn nhw — pob mynedfa a drws, y cyfarwyddiadau a'r rheolau i gyd. Tynna lun manwl o'r cwbl iddyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y cynllun ac yn cadw'n ffyddlon ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac os byddant yn cywilyddio am y cyfan a wnaethant, dangos iddynt batrwm y deml, ei chynllun, ei hagoriadau a'i mynedfeydd, a'i holl batrwm. Gwna iddynt wybod ei holl ddeddfau a'i holl gyfreithiau; ysgrifenna hwy yn eu gu373?ydd, er mwyn iddynt ddilyn ei phatrwm a chadw ei deddfau.