Ezekiel 43:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a'r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a'i gwaelod yn gufydd o amgylch: a'i grisiau yn edrych tua'r dwyrain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
gyda sil sy'n ei gwneud yn saith metr a chwarter bob ffordd. Mae'r ymyl yn ddau ddeg chwech centimetr gyda gwter bum deg dau centimetr a hanner o led o'i chwmpas. Mae'r grisiau yn mynd i fyny ati o'r ochr ddwyreiniol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y silff uchaf hefyd yn sgwr, yn bedwar cufydd ar ddeg o hyd a phedwar cufydd ar ddeg o led, gyda chantel o hanner cufydd, a gwaelod o gufydd oddi amgylch. Bydd grisiau'r allor yn wynebu tua'r dwyrain."