Ezekiel 43:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymer o'i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylid cymryd peth o'r gwaed a'i roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y sil a reit rownd yr ymyl. Bydd yn ei gwneud yn lân ac yn iawn i'w defnyddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddi'n cymryd o'i waed ac yn ei roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y silff uchaf, ac ar y cantel oddi amgylch; felly byddi'n puro'r allor ac yn gwneud cymod drosti.