Ezekiel 43:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a'm henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt‐hwy, na'u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd y llais: “Ddyn, dyma lle mae fy ngorsedd i a'r lle i mi orffwys fy nhraed. Bydda i'n byw yma gyda phobl Israel am byth. Fydd pobl Israel a'u brenhinoedd ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i eto drwy eu puteindra ysbrydol na thrwy godi cofgolofnau i'w brenhinoedd pan fyddan nhw'n marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn dweud wrthyf, "Fab dyn, dyma le fy ngorsedd, lle gwadnau fy nhraed, a'r lle y byddaf yn trigo ymhlith pobl Israel am byth. Ni fydd yr Israeliaid na'u brenhinoedd byth eto'n halogi fy enw sanctaidd trwy eu puteindra a'r delwau o'u brenhinoedd wedi iddynt farw.