Ezekiel 43:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a'u gorsin wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â'u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a'u hysais hwy yn fy llid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth adeiladu eu palasau drws nesa i'm teml i, gyda dim byd ond wal denau yn eu gwahanu nhw, roedden nhw'n sarhau fy enw sanctaidd i drwy'r pethau ffiaidd roedden nhw'n eu gwneud. Felly dyma fi'n eu difa nhw pan oeddwn i'n ddig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddynt osod eu rhiniog wrth ochr fy rhiniog i, a physt eu pyrth wrth ochr pyst fy mhyrth i, heb ddim ond mur yn ein gwahanu, bu iddynt halogi fy enw sanctaidd trwy eu ffieidd-dra; a dinistriais hwy yn fy nig.