Ezekiel 44:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i'r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o'u blaen hwy i'w gwasanaethu hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n gweithio yn y cysegr ond dim ond fel dynion diogelwch. Nhw hefyd fydd yn lladd yr anifeiliaid sydd i'w llosgi, a'r aberthau, yn lle'r bobl eu hunain. Byddan nhw fel gweision i'r bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddant yn gwas-anaethu yn fy nghysegr trwy ofalu am byrth y deml, ac yn gweini yno; byddant yn lladd y poethoffrwm a'r aberth i'r bobl, ac yn gweini ar y bobl ac yn eu gwasanaethu.