Ezekiel 44:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan elont i'r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i'r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl â'u gwisgoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan fyddan nhw'n mynd allan at y bobl i'r iard allanol rhaid iddyn nhw newid eu dillad; cadw'r dillad roedden nhw'n gwasanaethu ynddyn nhw yn yr ystafelloedd sydd wedi eu neilltuo i'r pwrpas hwnnw, a gwisgo eu dillad bob dydd. Wedyn fyddan nhw ddim yn peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â'r dillad sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fyddant yn mynd i'r cyntedd allanol, lle mae'r bobl, y maent i ddiosg y dillad a fu ganddynt yn gwasanaethu, a'u gadael yn yr ystafelloedd cysegredig; rhoddant wisgoedd eraill amdanynt, rhag i'w dillad drosglwyddo i'r bobl yr hyn sy'n sanctaidd.