Ezekiel 44:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a'm deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Pan mae pobl yn mynd ag achos i'r llys, yr offeiriaid fydd yn barnu ac yn gwneud yn union beth dw i'n ddweud. Byddan nhw'n cadw'r deddfau a'r rheolau am y Gwyliau a'r dyddiau Saboth dw i wedi eu trefnu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mewn achos o ymrafael, y mae'r offeiriaid i weithredu fel barnwyr, a barnu yn l fy nghyfreithiau. Y maent i gadw fy neddfau a'm hordeiniadau ar fy holl wyliau penodedig, a chadw fy Sabothau'n sanctaidd.