Ezekiel 44:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll o'ch holl offrymau, fydd eiddo yr offeiriaid: blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i'r offeiriad, i osod bendith ar dy dŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r offeiriaid fydd piau ffrwythau cyntaf y cynhaeaf hefyd. Wrth i chi gyflwyno'r rhain, a'r offrwm cyntaf o does hefyd, bydd yr ARGLWYDD yn bendithio eich cartrefi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eiddo'r offeiriaid hefyd fydd y gorau o'r holl flaenffrwyth ac o'ch holl offrymau arbennig. Rhowch i'r offeiriaid hefyd y gyfran gyntaf o'ch blawd ml, er mwyn i fendith fod ar eich tai.