Ezekiel 44:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Gosod dy galon, fab dyn, a gwêl â'th lygaid, clyw hefyd â'th glustiau, yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt, am holl ddeddfau tŷ yr ARGLWYDD, ac am ei holl gyfreithiau; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o'r cysegr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, dw i am i ti sylwi ar hyn. Edrych yn ofalus a gwrando'n astud ar bopeth dw i'n ei ddweud am reolau a deddfau teml yr ARGLWYDD. Sylwa'n fanwl ar bob mynedfa i'r deml a'r drysau allan o'r cysegr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Fab dyn, dal sylw, edrych yn ofalus, a gwrando'n astud ar y cyfan a ddywedaf wrthyt ynglu375?n holl ddeddfau'r deml a'i chyfreithiau. Rho sylw i fynedfa'r deml ac i holl allanfeydd y cysegr.