Ezekiel 44:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i'w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a'r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd‐dra chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n dod â phobl o'r tu allan i weithio yn y cysegr, paganiaid llwyr sy'n dangos dim parch ata i. Dych chi'n llygru'r deml drwy gynnig beth sydd piau fi — sef y brasder a'r gwaed — iddyn nhw. Dych chi wedi torri'r ymrwymiad rhyngon ni drwy wneud yr holl bethau ffiaidd yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ychwanegaist at dy holl ffieidd-dra trwy ddod ag estroniaid, dienwaededig o ran calon a chnawd, i mewn i'm cysegr a'i halogi; tra oeddit ti'n offrymu bwyd, gyda'r braster a'r gwaed, yr oeddent hwy'n torri fy nghyfamod.