Ezekiel 44:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ni ddaw i'm cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o'r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dydy'r paganiaid sy'n byw gyda'm pobl Israel ddim i gael mynd i mewn i'r cysegr eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid yw'r un estron dienwaededig o ran calon a chnawd i ddod i mewn i'm cysegr, hyd yn oed yr estroniaid sy'n byw ymhlith pobl Israel.