Ezekiel 45:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, yr offrymwch i'r ARGLWYDD offrwm cysegredig o'r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Pan fyddwch chi'n rhannu'r tir rhwng llwythau Israel, rhaid i chi roi cyfran ohono i'r ARGLWYDD — darn o dir wedi ei gysegru'n arbennig. Mae i fod dros wyth milltir o hyd a dros chwe milltir a hanner o led. Bydd yr ardal yna i gyd yn dir cysegredig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Pan fyddwch yn rhannu'r wlad yn etifeddiaeth trwy fwrw coelbren, neilltuwch yn dir cysegredig i'r ARGLWYDD gyfran yn mesur pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ac ugain mil o gufyddau o led; a bydd yr holl gyfran yn sanctaidd trwyddi.