Ezekiel 45:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd‐offrwm, a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau, a'r newyddloerau, a'r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech‐aberth, a bwyd‐offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i'w llosgi, yr offrymau o rawn a'r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misol a'r Sabothau — pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno'r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyletswydd y tywysog fydd darparu'r poethoffrymau, y bwydoffrymau a'r diodoffrymau ar gyfer y gwyliau, y newydd-loerau a'r Sabothau, sef holl wyliau penodedig tu375? Israel. Bydd yn darparu'r aberth dros bechod, y bwydoffrwm, y poethoffrwm a'r heddoffrymau i wneud cymod dros du375? Israel.