Ezekiel 45:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhan fydd i'r tywysog o'r tu yma ac o'r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du y gorllewin tua'r gorllewin, ac o du y dwyrain tua'r dwyrain: a'r hyd fydd ar gyfer pob un o'r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad — un i'r gorllewin o'r tir cysegredig, a'r llall i'r dwyrain. Bydd ei ffiniau yn gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Y tywysog fydd piau'r tir o boptu i'r tir cysegredig ac i'r tir sy'n perthyn i'r ddinas. Bydd ei dir ef yn ymestyn tua'r gorllewin ar un ochr, a thua'r dwyrain ar yr ochr arall, ac yn rhedeg yn gyfochrog rhan un o'r llwythau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.

Recommended Reading