Ezekiel 45:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a'r gormes yma! Gwnewch beth sy'n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o'u cartrefi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyna ddigon, chwi dywysogion Israel! Rhowch heibio eich trais a'ch gormes; gwnewch yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a pheidiwch throi fy mhobl allan o'u hetifeddiaeth, medd yr Arglwydd DDUW.