Ezekiel 46:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r ARGLWYDD, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a â allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd y tywysog yn darparu offrwm gwirfodd i'r ARGLWYDD, yn boethoffrwm neu'n heddoffrymau, fe agorir iddo'r porth sy'n wynebu tua'r dwyrain. Bydd yn aberthu ei boeth-offrwm neu ei offrymau hedd fel y gwna ar y Saboth. Yna fe allan, ac wedi iddo fynd allan fe gaeir y porth.