Ezekiel 46:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan roddo efe rodd o'i etifeddiaeth i un o'i weision, bydded hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid; yna y dychwel i'r tywysog: eto ei etifeddiaeth fydd eiddo ei feibion, iddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydy e'n rhoi tir i un o'i weision, bydd yn perthyn i'r gwas hyd flwyddyn y rhyddhau; bryd hynny bydd y pennaeth yn cael y tir yn ôl. Dim ond y meibion sy'n cael cadw'r etifeddiaeth am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os bydd y tywysog yn rhoi rhodd o'i etifeddiaeth i un o'i weision, bydd yn eiddo i'r gwas hyd flwyddyn ei ryddhau, ac yna bydd yn dychwelyd i'r tywysog; ei feibion yn unig a gaiff gadw ei etifeddiaeth.