Ezekiel 46:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na chymered y tywysog o etifeddiaeth y bobl, i'w gorthrymu hwynt allan o'u perchenogaeth; eithr rhodded etifeddiaeth i'w feibion o'i berchenogaeth ei hun: fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o'i berchenogaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddylai pennaeth y wlad ddim cymryd tir pobl oddi arnyn nhw a'u gorfodi nhw i adael eu cartrefi. Dim ond ei dir ei hun mae'n cael ei roi i'w feibion. Ddylai fy mhobl ddim cael eu gyrru oddi ar eu tir.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw'r tywysog i gymryd o etifeddiaeth y bobl, a'u troi allan o'u tir; o'i eiddo ei hun y rhydd etifeddiaeth i'w feibion, fel na fydd yr un o'm pobl yn cael ei wahanu oddi wrth ei etifeddiaeth.'"