Ezekiel 46:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth; a'r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a'i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth: ac a â allan: a'r porth ni chaeir hyd yr hwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pennaeth y wlad yn dod i mewn trwy gyntedd allanol y giât. Bydd yn sefyll wrth ymyl pyst y giât tra bydd yr offeiriaid yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yn ymgrymu i addoli ar drothwy'r giât, ac yna'n mynd allan. Ond fydd y giât ddim yn cael ei chau nes iddi nosi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r tywysog i ddod i mewn trwy gyntedd y porth, a sefyll ger pyst y porth; ac y mae'r offeiriaid i aberthu ei boethoffrwm a'i hedd-offrymau. Y mae i addoli wrth riniog y porth ac yna mynd allan, ond ni chaeir y porth hyd fin nos.