Ezekiel 46:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a'r pech‐aberth, a lle y pobant y bwyd‐offrwm; fel na ddygont hwynt i'r cyntedd nesaf allan, i sancteiddio y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma lle mae'r offeiriaid yn berwi cig yr offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod,” meddai. “Dyma hefyd lle maen nhw'n pobi'r offrwm o rawn. Maen nhw'n gwneud y cwbl yma er mwyn osgoi mynd â'r offrymau drwy'r iard allanol a peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â phethau sy'n sanctaidd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthyf, "Dyma'r lle y bydd yr offeiriaid yn coginio'r offrwm dros gamwedd a'r aberth dros bechod, ac yn pobi'r bwydoffrwm, rhag iddynt ddod hwy i'r cyntedd nesaf allan a throsglwyddo i'r bobl yr hyn sydd sanctaidd."