Ezekiel 46:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddelo pobl y tir o flaen yr ARGLWYDD ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a â allan i ffordd porth y deau; a'r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Ond pan mae'r bobl gyffredin yn mynd i addoli'r ARGLWYDD ar y gwyliau crefyddol, mae pwy bynnag sy'n mynd i mewn trwy giât y gogledd i fynd allan drwy giât y de, a'r ffordd arall. Does neb i fynd allan yr un ffordd ag yr aeth i mewn; rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r giât gyferbyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Pan fydd pobl y wlad yn dod o flaen yr ARGLWYDD ar y gwyliau penodedig, y mae'r sawl sy'n dod i mewn i addoli trwy borth y gogledd i fynd allan trwy borth y de, a'r sawl sy'n dod i mewn trwy borth y de i fynd allan trwy borth y gogledd. Ni chaiff neb ymadael trwy'r porth y daeth i mewn trwyddo, ond mynd allan trwy'r porth gyferbyn.