Ezekiel 47:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran, ac o Damascus, ac o Gilead, ac o dir Israel wrth yr Iorddonen, o'r terfyn hyd fôr y dwyrain. A dyma du y dwyrain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn i'r dwyrain mae'r ffin yn rhedeg o'r pwynt yna rhwng Chawran a Damascus, i lawr Afon Iorddonen rhwng Israel a Gilead, ac wedyn heibio'r Môr Marw cyn belled â Tamar yn y de. Dyna'r ffin i'r dwyrain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ar ochr y dwyrain bydd yn rhedeg rhwng Hauran a Damascus, ar hyd yr Iorddonen rhwng Gilead a thir Israel, ac at fr y dwyrain hyd at Tamar. Dyma fydd terfyn y dwyrain.