Ezekiel 47:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i'r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedla blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae i'w rannu rhyngoch yn etifeddiaeth i chi a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi ac yn magu eu plant yn eich plith. Rhaid i chi eu trin nhw fel petaen nhw wedi eu geni yn Israeliaid. Maen nhw i gael etifeddu tir fel pawb arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'i neilltuo'n etifeddiaeth i chwi ac i'r estroniaid sy'n byw yn eich mysg ac yn magu plant; byddant hwythau yn eich mysg fel rhai o frodorion Israel, ac fel chwithau byddant yn cael etifeddiaeth ymhlith llwythau Israel.