Ezekiel 47:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â'r llinyn yn ei law allan tua'r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a'm tywysodd i trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y fferau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth y dyn allan i gyfeiriad y dwyrain gyda llinyn mesur yn ei law. Mesurodd 525 metr ac yna fy arwain drwy'r dŵr. Roedd i fyny at fy fferau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth i'r dyn fynd allan tua'r dwyrain llinyn mesur yn ei law, mesurodd fil o gufyddau, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y fferau.