Ezekiel 47:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwodd; a'r dyfroedd hyd y lwynau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mesurodd 525 metr arall, ac yna fy arwain drwy'r dŵr eto. Erbyn hyn roedd i fyny at fy ngliniau. Mesurodd 525 metr arall, ac roedd y dŵr i fyny at fy nghanol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y gliniau; a mesurodd fil arall, a'm harwain trwy ddyfroedd oedd at y wasg.